Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (202) |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestinau 1 a 3 i 15. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2, 4 i 12 ac 14 i 15. Tynnwyd cwestiwnau 3 ac 13 yn ôl. Cafodd cwestiynau 14 ac 15 eu grwpio.
3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch yr Ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NDM5518 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.55
NDM5519 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5520 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd yr economi ddigidol, a datblygu seilwaith i'w chynnal.
2. Yn gresynu bod ardaloedd yng Nghymru o hyd lle nad oes fawr ddim darpariaeth band eang neu 3G, os o gwbl, a'r effaith andwyol y mae hyn yn ei chael ar fusnesau ac unigolion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion ynghylch sut y bydd y £12 miliwn o’r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cyflymu Cymru yn cael ei ddyrannu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.30
6 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.32
NDM5517 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Atebolrwydd rheolwyr GIG Cymru
Archwilio rôl a chyfrifoldeb byrddau a swyddogion y GIG o ran cyflenwi gofal diogel ac effeithiol yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2014